Mae undebau wedi croesawu’r newyddion bod yr enw British Steel yn dychwelyd i’r diwydiant dur ar ôl i rannau o gwmni Tata gael eu gwerthu.
Mae Greybull Capital wedi prynu busnes Long Products, gan ddiogelu miloedd o swyddi yn Scunthorpe, ac maen nhw wedi ail-enwi’r cwmni.
Yn ôl undeb Community, mae’r gwerthiant yn “bennod newydd” yn hanes y diwydiant dur, gan ddangos bod “gobaith am ddyfodol disglair”.
Dywedodd llefarydd ar ran yr undeb: “Mae British Steel wedi’i adeiladu ar seiliau cadarn gyda gweithlu profiadol ac ymroddgar â sgiliau ac sydd yn benderfynol o lwyddo yn y busnes.”
Ychwanegodd fod y cytundeb rhwng rheolwyr a’r undebau eisoes yn dwyn ffrwyth.
Mae cwmni Long Products yn cwmpasu safle Scunthorpe, dwy felin yn Teesside, gweithdy yn Workington, cwmni sy’n ymgynghori ar ddylunio yng Nghaerefrog, cyfleusterau dosbarthu a melin yng ngogledd Ffrainc.
Maen nhw’n cyflogi 4,800 o bobol, gan gynnwys 4,400 yng ngwledydd Prydain.
Mae Tata yn parhau i ystyried ceisiadau am weddill y busnes gan gynnwys y safle ym Mhort Talbot.
‘Carreg filltir’
Dywedodd cyfarwyddwr masnachol British Steel, Peter Hogg ei fod yn garreg filltir i’r busnes.
“Heddiw yw diwrnod masnachu cyntaf i’n cwmni newydd ac rydym wrth ein bodd o gael lansio o dan y brand eiconig British Steel.
“Fe gymerodd gryn ymdrech a phartneriaeth gref rhwng ein gweithwyr a’u cynrychiolwyr o’r undebau, ein cwsmeriaid a’n cyflenwyr, a rhai misoedd o waith caled i gyrraedd y pwynt yma.
“Rydym hefyd yn gwerthfawrogi cymorth a chefnogaeth llywodraeth leol a chenedlaethol a’n haelodau seneddol lleol.”
‘Arwydd enfawr o hyder’
Dywedodd llefarydd ar ran Unite yn Scunthorpe: “Mae diwrnod masnachu cyntaf British Steel nid yn unig yn nodi dechrau pennod newydd i Scunthorpe, ond i wneuthuro dur yn y DU.
“Mae’n arwydd enfawr o hyder mewn gweithlu o safon fyd-eang a thref Scunthorpe a’i hanes balch o wneud dur.”
‘Newyddion gwych’
Ychwanegodd Ysgrifennydd Busnes San Steffan, Sajid Javid: “Mae’r cytundeb heddiw’n newyddion gwych i weithwyr dur Scunthorpe, Teesside, Workington a Chaerefrog.
“Mae’r buddsoddiad hwn yn dyst i sgil sylweddol y gweithlu lleol, potensial y safleoedd hyn ac yn arwydd o hyder yn y diwydiant dur yn y DU ar y cyfan.”