Fe fyddai biliau ynni yn gostwng petai’r DU yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd (UE), yn ôl ymgyrchwyr Leave.

Dywedodd cyn-Faer Llundain Boris Johnson y gallai Treth ar Werth (TAW) gael ei sgrapio o filiau ynni a bod rheolau’r Undeb Ewropeaidd ar hyn o bryd yn atal hynny.

Ond wfftio hynny wnaeth y Canghellor George Osborne gan ddweud mai “ffantasi” oedd y ffigurau.

Yn y cyfamser mae un o ymgyrchwyr blaenllaw Leave, y gweinidog yn y Cabinet Chris Grayling wedi cyfaddef na all gweinidogion,  sydd o blaid gadael yr UE, wneud addewidion ynglŷn â sut fydd yr arian sy’n cael ei arbed o adael yr Undeb, yn cael ei wario.

‘Opsiynau’

Dywedodd Chris Grayling bod Boris Johnson a Michael Gove wedi cyflwyno’r “opsiynau” a fyddai ar gael i’r Llywodraeth pan wnaethon nhw ddweud y byddai biliau ynni yn gostwng petai’r DU yn pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae’r cyn-Ganghellor yr Arglwydd Lamont, a oedd wedi cyflwyno TAW ar ynni a thanwydd yn 1993, wedi cefnogi’r syniad o gael gwared a’r dreth ar ynni.

“Os ydyn ni’n pleidleisio o blaid gadael yr UE ar 23 Mehefin fe allwn ni gymryd rheolaeth o TAW, a llawer mwy, yn ôl.”