Megan Elias â'i medal
Enillydd Medal y Dysgwyr yn Eisteddfod Genedlaethol Urdd Gobaith Cymru Sir y Fflint 2016 yw Megan Elias o Hen Golwyn, Sir Conwy.
Mae Megan yn fyfyrwraig ail flwyddyn ym Mhrifysgol Bangor yn astudio’r Gymraeg, cwrs a ddewisodd ar ôl taith i Eisteddfod yr Urdd yn y Bala, meddai.
“Wedi derbyn cynnig, yn ddiamod, i astudio Cyllid ym Mhrifysgol Caerhirfryn, roedd taith i Eisteddfod yr Urdd yn y Bala ddwy flynedd yn ôl, yn ddigon i mi newid fy meddwl yn llwyr a mynd i astudio’r Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor.
“Mae’r gallu i siarad Cymraeg wedi newid fy mywyd yn llwyr – rwy’n defnyddio’r iaith bob dydd, ac wedi cael hyd i fyd arall gyda chysylltiadau newydd sydd wedi newid fy mywyd mewn ffordd gadarnhaol.”
“Ers ymddiddori yn y Gymraeg a’r diwylliant rwyf wedi cael cymaint o gyfleoedd na fyddwn wedi eu cael pe na fyddwn wedi dechrau dysgu’r iaith.”
Newidiadau i’r gystadleuaeth
Roedd trefn y gystadleuaeth yn wahanol eleni, gyda’r dysgwyr yn gorfod dangos eu sgiliau cyfathrebu drwy’r Gymraeg drwy siarad yn gyhoeddus yn hytrach na chyflwyno darn ysgrifenedig.
Ar ôl cyflwyno eu cais cychwynnol, cafodd yr ymgeiswyr eu gwahodd i Wersyll Glan-llyn ym mis Mawrth gan gael cyfres o dasgau amrywiol i brofi eu gallu i gyfathrebu drwy’r Gymraeg.
Yna roedd tri o’r rheiny yn cael eu gwahodd i’r Eisteddfod heddiw i wneud amrywiol dasgau o amgylch y Maes, gyda’r beirniaid Eirian Conlon ac Enfys Thomas, yn eu dilyn ac yn eu hasesu.
‘Egni ffres’
Yn ôl Enfys Thomas fu’n traddodi o’r llwyfan yn ystod y seremoni, roedd “egni ffres newydd” yn y gystadleuaeth a hynny am fod newidiadau wedi cael eu cyflwyno iddi.
“Profiad bendigedig ar y Maes heddiw oedd bod yn dyst i’r ffordd naturiol roedd y tri’n cyfarch yr Eisteddfodwyr yn y babell groeso bore ‘ma ac yn delio mor hyderus efo’r cyfryngau ym mhabell y wasg wedyn,” meddai.
Y ddau arall a gyrhaeddodd rownd derfynol Medal y Dysgwyr eleni oedd Hannah Eve Cook o Ysgol Dyffryn Ogwen a Bradley Jones o Ysgol John Bright, Llandudno.
“Mae Hannah, Megan a Bradley wedi profi i ni ei bod hi’n bosibl dysgu’r Gymraeg at safon uchel iawn, a mwynhau’r gymdeithas sy’n dod o fedru’r ddwy iaith a chael dwywaith y dewis,” ychwanegodd Enfys Thomas.
“Rydym fel beirniaid yn ffyddiog y bydd y tri yn ysbrydoli pobl ifanc, sy’ ddim yn siarad Cymraeg eto, i ddilyn eu hesiampl. Roedd yn waith anodd iawn eu rhannu ond mae Megan yn enillydd teilwng iawn o’r fedal.”