Mae Cynulliad Cyffredinol yr Eglwys yn yr Alban wedi pleidleisio o blaid rhoi’r hawl i’w hoffeiriaid fod mewn partneriaethau sifil neu briodasau un-rhyw.
Mae’r cyfarfod sydd wedi agor yng Nghaeredin heddiw, wedi pleidleisio tros ymestyn rheol a basiwyd ym Mai y llynedd sy’n rhoi hawl i weinidogion fod mewn partneriaethau sifil un-rhyw.
Fe ddaw’r canlyniad hwn heddiw wedi blynyddoedd o drafod o fewn yr Eglwys, ond mae’n golygu fod y Kirk yn dal at ei safbwynt traddodiadol o briodas fel uniad rhwng dyn a dynes, ond bod hawl gan gynulleidfaoedd unigol i “optio allan” os ydyn nhw’n dymuno apwyntio gweinidog neu ddiacon sydd mewn perthynas un-rhyw neu bartneriaeth sifil.
Fydd yna ddim ystyriaeth ddiwinyddol bellach i’r mater nes y bydd Fforwm Diwinyddol y Kirk yn cyfarfod y flwyddyn nesa’.