Mae tri dyn yn cael eu trin yn yr ysbyty ym Manceinion wedi iddyn nhw golapsio o ganlyniad i “adwaith anffafriol” cymryd cyffuriau ‘legal high’ sy’n cael eu nabod fel Annihilation neu Cherry Bombs.

Mae Heddlu Greater Manchester wedi cyhoeddi rhybudd brys, gan fod un dyn 33 blwydd oed yn dal i fod mewn coma.

Fe gafodd y tri dyn eu taro’n sâl yn Rochdale nos Wener a bore Sadwrn. Ar wahân i’r gwr sydd mewn coma, mae dyn arall, 34 oed, mewn cyflwr difrol yn yr ysbyty.

Mae’r heddlu’n annog unrhyw un a allai fod wedi cymryd cyffuriau tebyg i fod yn ymwybodol o sumptomau adwaith anffafriol, sy’n cynnwys chwyso, curiad calon cyflym, ynghyd â siarad lol diddiwedd.