Fe allai merch 16 oed sydd ar goll o’i chartre’ yn Llundain, fod ar ei ffordd i Sir Benfro, meddai’r heddlu.

Does neb wedi gweld Katrina Grace o Sidcup ers 5.15yp ddydd Llun, ac mae’r heddlu’n dechrau mynd yn fwy a mwy pryderus amdani gan nad yw wedi mynd â’i meddyginiaeth efo hi.

Mae Katrina’n ferch groenddu, yn mesur 5 troedfedd 7 modfedd o daldra, o gorffolaeth fain gyda gwallt hir du. Y tro diwetha’ y gwelwyd hi, roedd hi’n gwisgo jins tynn lliw glas tywyll, siwmper lwyd, trenyrs Adidas am ei thraed, ac roedd hi’n cario rycsac bychan.

Mae Heddlu Bexley Borough yn credu y gallai fod ar ei ffordd i Aberdaugleddau, ond maen nhw’n ymwybodol hefyd o’i chysylltiadau ag ardaloedd Croydon a Lewisham yn Llundain.