Mae’r heddlu a’r gwasanaethau cymdeithasol wedi apelio am gymorth wrth chwilio am fam a mab sydd ar goll ers blwyddyn bellach.
Mae Moses John, 14, yn ganolbwynt i ffrae gyfreithiol deuluol. Fe ddiflannodd y bachgen a’i fam, Pauline Watson, 46, o’u cartre’ yn Swydd Northampton, ac mae yna le i gredu y gallen nhw fod yn Llundain bellach.
Mae llefarydd ar ran Cyngor Sir Northampton, sy’n gyfrifol am les Moses John, yn dweud eu bod nhw’n awyddus i gysylltu gydag o “cyn gynted â phosib”. Mae Moses yn fachgen croenddu ac yn mesur 5 troedfedd 9 modfedd o daldra. Mae ei fam yn ddynes groenddu o 5 troedfedd 7 modfedd o daldra.
Mae’r awdurdodau yn credu hefyd fod gan Pauline Watson gysylltiadau ag ambell i ardal o Lundain, yn cynnwys Croydon, Islington, Merton, Sutton, Southwark a Lambeth.
Mae Barnwr Uchel Lys wedi rhoi caniatâd arbennig i enw Moses John gael ei gyhoeddi fel rhan o’r apel hon.