David Dalling - methodd â dychwelyd i'r carchar neithiwr
Mae dyn wedi dianc o garchar yn Suffolk.

Fe gafodd David Dalling, 42, ei riportio ar goll o HMP Hollesley Bay neithiwr.

Roedd wedi cael caniatad i adael y carchar i fynd i gyfeiriad yn Lambeth, de Llundain, ddydd Llun, ac roedd disgwyl iddo ddychwelyd i Hollesley Bay erbyn 3.30yp ddydd Gwener – ond fe fethodd â gwneud hynny.

Mae David Dalling yn treulio pum mlynedd dan glo am ladrata a bwrgleriaeth. Mae wedi’i ddisgrifio fel dyn croenddu, 6 throedfedd 1 fodfedd o daldra, o gorffolaeth fain, gyda gwallt cyrliog du, barf a chraith uwchben ei lygad de.