Mae dyn wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad ag ymgais i ddwyn car mewn parc siopa.

Roedd bachgen teirblwydd yn sedd gefn y car adeg yr honedig ymgais i ddwyn y cerbyd ym maes parcio Aldi ger Manceinion toc wedi 7.30yh nos Lun.

Mae Kyle Jones, 23, o Openshaw wedi’i gyhuddo o geisio cymryd y car ac o fod ag arf peryglus yn ei feddiant. Mae wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys Ynadaon Manceinion yn ddiweddarach heddiw.

Yn ol Heddlu Greater Manchester, roedd perchennog y car, Tahir Mehmood, yn cerdded allan o’r archfarchnad pan welodd ei wraig a’i fab arall, 5, yn sefyll y tu allan i’r car, wedi’u gorfodi allan o’r cerbyd.