Fe dradodd y Frenhines ei haraith blynyddol heddiw (llun: PA)
Yn dilyn araith flynyddol y Frenhines, mae’r gwrthbleidiau wedi lladd ar y Ceidwadwyr yn San Steffan gan ddweud bod cynnwys yr araith yn arwydd o lywodraeth “wan”.
Dywedodd Llafur fod hi’n “chwerthinllyd” i David Cameron alw ei raglen ddeddfwriaethol yn agenda “un genedl”.
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi dweud hefyd y byddan nhw’n ymladd unrhyw “ymgais” i wanhau cyfreithiau hawliau dynol.
Daeth beirniadaeth gan blaid David Cameron ei hun hefyd, ar ôl i’r cyn-weinidog Cabinet Iain Duncan Smith ymateb yn chwyrn dros ddiffyg Bil Sofraniaeth i Brydain yn y cynlluniau.
Ac fe rybuddiodd Plaid Cymru dros y diffyg sylw i Gymru yn yr araith, gan alw agenda’r Ceidwadwyr yn “ideoleg Lundeinig San Steffan fydd yn amddifadu anghenion economaidd Cymru.”
“Chwerthinllyd”
Dywedodd Jonathan Ashworth, y gweinidog cysgodol heb bortffolio, fod y Llywodraeth Geidwadol yn “rhedeg allan o stêm”.
Gan gyfeirio at y “chwyldro mewn carchardai” y mae’r Ceidwadwyr wedi addo, dywedodd bod hi’n rhy hwyr, gyda “charchardai wedi mynd yn “beryglus o orlawn, heb ddigon o staff, a bod cynnydd mewn trais a defnydd cyffuriau”.
“Mae’r syniad bod David Cameron yn gallu galw ei raglen yn “un genedl” yn hollol chwerthinllyd,” meddai.
“Dyma Lywodraeth Dorïaidd sydd wedi torri treth i filiwnyddion tra’n gorfodi pawb arall i dalu mwy.”