Broets hynafol gafodd ei ddarganfod gan yr archeolegwyr (llun: Cyngor Môn)
Mae archeolegwyr sy’n cloddio ar Ynys Môn wedi dod o hyd i drugareddau mewn beddi hynafol sy’n dyddio 1,500 o flynyddoedd yn ôl.

Rhyw fis yn ôl, wrth adeiladu ffordd gyswllt ger Llangefni, y cafodd 48 o feddi eu darganfod.

Mae rhai ohonynt, sy’n dyddio yn ôl i’r cyfnod canoloesol, yn cynnwys gweddillion mwy nag un person a thrugareddau gwahanol.

Mae’r gweddillion wedi cael eu cadw mewn cyflwr da iawn, ac yn ôl archeolegwyr gall hyn fod am fod calchfaen yng ngwely’r graig lle cafwyd hyd i rai o’r beddi.

Golyga hyn fod hyd yn oed esgyrn mân dwylo a thraed rhai o’r sgerbydau yn dal i’w gweld heddiw.

Ymhlith y trugareddau yn y beddi roedd broets efydd bychan o ddiwedd y cyfnod Rhufeinig, tameidiau o grochenwaith o Gaul (rhan o Ffrainc erbyn hyn), clasbyn oddi ar froets a darn o deilsen to, sy’n awgrymu bod adeiladau wedi bodoli gerllaw.

‘Pwysigrwydd cenedlaethol’

“Mae hwn yn ddarganfyddiad o bwysigrwydd cenedlaethol,” meddai Iwan Parry o gwmni Archaeoleg Brython wrth drafod y darganfyddiad.

“Mae canfod mynwent fel hon lle mae’r eitemau wedi cadw cystal yr un fath â dod o hyd i gapsiwl amser a adawyd gan gymuned bron i 1,500 o flynyddoedd yn ôl.

“Mae’r modd y mae’r gweddillion wedi cael eu cadw yn anhygoel. Mae’r pridd yng ngogledd-orllewin Cymru fel arfer yn asidig iawn, sy’n golygu mai anaml y mae esgyrn yn goroesi.

“Fodd bynnag, mae hyd yn oed esgyrn mân y dwylo a’r traed dal i’w gweld yn rhai o’r sgerbydau. Credwn fod hyn o ganlyniad i’r calchfaen yng ngwely’r graig lle mae rhai o’r beddi wedi cael eu cloddio.”

Bwriad yr archeolegwyr, meddai, yw deall y bobol hyn oedd yn bodoli dros fil o flynyddoedd yn ôl a gwybod am eu hiechyd, ym mhle cawson nhw eu magu, yr hyn oedden nhw’n eu bwyta a phryd buon nhw farw.

“Trwy waith DNA, mae’n bosib hefyd y bydd modd darganfod a oeddent yn grŵp o’r un teulu ac a oedd y rhai a gladdwyd gyda’i gilydd yn perthyn, ac efallai y bydd modd hyd yn oed darganfod a oedd y bobl hyn yn berthnasau pell i’r bobl sydd dal yn byw yn Llangefni heddiw,” ychwanegodd.

Diogelu’r safle

Gyda’r gwaith adeiladu ger y beddi hynafol yn dal i barhau, mae Cyngor Môn yn dweud y byddan nhw’n diogelu’r safle er mwyn ei harchwilio ymhellach.

“Rydym yn gweithio’n agos iawn gyda’n contractwyr, Alun Griffiths, a’n harbenigwyr archeolegol i sicrhau bod y safle’n parhau i gael ei ddiogelu a’i reoli’n sensitif, fel y gellir archwilio a chofnodi’r darganfyddiad pwysig hwn,” meddai Prif Beiriannydd Cyngor Môn, Huw Percy.

Does dim mynediad i’r safle i’r cyhoedd eto ond mae’r Cyngor yn bwriadu cynnal diwrnod agored er mwyn i “drigolion lleol a phobl eraill sydd â diddordeb weld y fynwent drostynt eu hunain”.

Mae’r ffordd yn cael ei hadeiladu o gampws Grŵp Llandrillo Menai ym Mhencraig i’r B5420 Lôn Penmynydd, gan gysylltu wedyn i ffordd Parc Busnes Bryn Cefni.