Matthew Daley Llun: Heddlu Sussex/PA Wire)
Mae teulu cyfreithiwr a gafodd ei drywanu nifer o weithiau gan ddyn a salwch meddwl ar ôl i’w ceir daro yn erbyn ei gilydd, wedi beirniadu’r Gwasanaeth Iechyd (GIG) am y methiannau a oedd wedi caniatáu iddo ladd.

Matthew Daley, 35, wedi trywanu Donald Lock, a oedd yn 79 oed, 39 o weithiau ar ôl i’w ceir wrthdaro ar yr A24 yn Findon ger Worthing, Gorllewin Sussex ar 16 Gorffennaf y llynedd.

Yn ôl teulu Donald Lock, a oedd wedi ymddeol, roedd methiannau gan Ymddiriedolaeth y GIG a oedd yn gyfrifol am ofal iechyd meddwl Daley wedi caniatáu iddo ladd.

Yn Llys y Goron Lewes cafwyd Daley yn ddieuog o lofruddio ond yn euog o ddynladdiad ar y sail nad oedd yn ei iawn bwyll.

‘Methiannau’

Dywedodd mab Donald Lock, Andrew, y tu allan i’r llys: “Oherwydd methiannau’r GIG ac yn sgil y dyfarniad heddiw, mae’n amlwg y byddai dad yn dal yma heddiw petai nhw wedi gwneud eu swydd yn iawn.”

Mae Ymddiriedolaeth y GIG yn Sussex wedi ymddiheuro wrth deulu Daley gan gyfaddef y dylai’r gofal a gafodd “fod wedi bod yn well.”

Ond mae teulu Donald Lock  wedi beirniadu’r Ymddiriedolaeth am beidio ymddiheuro wrthyn nhw.

Roedd Daley yn dioddef o sgitsoffrenia paranoiaidd ac roedd wedi dioddef o salwch meddwl ers 10 mlynedd. Clywodd y llys bod ei deulu wedi “erfyn” ar arbenigwyr i’w anfon i ysbyty meddwl.

Dywedodd ei fam Lynda Daley wrth y llys nad oedd ei mab wedi cael diagnosis cywir ac nad oedd arbenigwyr iechyd wedi gwrando arnyn nhw.

Nid oedd Daley wedi rhoi tystiolaeth yn yr achos.

Mae disgwyl i’r Ymddiriedolaeth gynnal adolygiad i 10 achos arall o ladd rhwng 2011 a 2016 ymhlith cleifion yr oedd wedi dod i  gysylltiad a nhw.