Natalie Bennett, arweinydd y Blaid Werdd, Llun: PA
Mae arweinydd y Blaid Werdd Natalie Bennett wedi cyhoeddi y bydd hi’n rhoi’r gorau i’w swydd yn yr haf ar ôl pedair blynedd wrth y llyw.
Dywedodd Natalie Bennett wrth The Guardian na fydd hi’n sefyll eto pan fydd ei hail dymor yn y swydd yn dod i ben ar ddiwedd mis Awst.
Daeth y gyn-newyddiadurwraig o Awstralia i amlygrwydd yn ystod y dadleuon teledu’r llynedd cyn yr etholiad cyffredinol.
Tra bod aelodaeth y blaid wedi cynyddu o 13,000 i 60,000 o dan ei harweinyddiaeth, fe fethodd ag ennill rhagor o seddi yn yr etholiad – gan gadw un sedd yn unig yn San Steffan.
Mewn datganiad, dywedodd Natalie Bennett ei bod yn bwriadu parhau i gymryd rhan yng ngwleidyddiaeth y Blaid Werdd.
Fe fydd enwebiadau i ddewis ei holynydd yn dechrau ar 1 Mehefin ac yn cau ar 30 Mehefin.
Mae disgwyl i ganlyniad y bleidlais gael ei gyhoeddi yng nghynhadledd y blaid ym mis Medi.
‘Cywir ac egwyddorol’
Wrth ymateb i’r cyhoeddiad, dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood: “Rwy’n dymuno’r gorau oll i Natalie Bennett wrth iddi ildio arweinyddiaeth y Blaid Werdd.
“Arweinioddd Natalie ei phlaid trwy gyfnod arwyddocaol Etholiad Cyffredinol 2015, a gwelodd gwylwyr y dadleuon teledu hi fel unigolyn cywir ac egwyddorol – a dyna yw hi. Rwyf wastad wedi bod yn ddiolchgar am ei chefnogaeth a’i hanogaeth, a dymunaf y gorau iddi ym mhob her y bydd yn eu hwynebu at y dyfodol.”