Llys y Goron Bryste
Mae dyn 64 oed a lofruddiodd ferch yn ei harddegau 32 mlynedd yn ôl wedi cael ei garcharu am o leiaf 22 mlynedd.

Fe gyfaddefodd Christopher Hampton ei fod wedi llofruddio Melanie Road, 17, cyn i’w achos ddechrau yn Llys y Goron Bryste.

Roedd y tad i bedwar o blant o Fishponds ym Mryste wedi gwadu’r cyhuddiad yn wreiddiol.

Cafodd ei arestio yn 2015 ar ôl i’r heddlu ganfod bod DNA ar ddillad Melanie Road yn cyd-fynd a DNA aelod o deulu Hampton ar gronfa ddata genedlaethol.

Bu farw Melanie Road yn dilyn ymosodiad rhywiol arni wrth iddi gerdded adref o glwb nos yng Nghaerfaddon ym mis Mehefin 1984. Roedd hi wedi cael ei thrywanu 26 gwaith yn ei brest a’i chefn.

Wrth ei ddedfrydu i garchar am oes, dywedodd y barnwr Mr Ustus Popplewell y bydd Hampton “mwy na thebyg yn marw yn y carchar.”

Dywedodd teulu Melanie Road eu bod nhw wedi aros am amser hir i gael cyfiawnder.