Bydd y papur gwyn yn ystyried y ffordd y bydd y BBC yn cael ei rhedeg yn y dyfodol
Mae disgwyl i Ysgrifennydd Diwylliant Llywodraeth San Steffan, John Whittingdale, gyhoeddi Papur Gwyn yr wythnos hon yn amlygu diwygiadau i’r modd y caiff y BBC ei rhedeg a’i hariannu.

Fe wnaeth hyn ennyn ymateb yn ystod y Gwobrau BAFTA Teledu gyda nifer o’r sêr yn mynegi eu hanfodlonrwydd.

Dywedodd yr actor Mark Rylance, a dderbyniodd wobr am ei ran yn y ddrama hanesyddol Wolf Hall ar BBC 2, fod “amrywiaeth anhygoel diwylliant poblogaidd y wlad hon wedi fy ysgubo heno. Gwae unrhyw lywodraeth neu sefydliad sy’n ceisio sefyll yn ffordd hynny”.

Ychwanegodd cyfarwyddwr y ddrama, Peter Kosminsky, fod y llywodraeth yn ceisio “diberfeddu” y BBC, ac ychwanegodd fod nawr yn “adeg beryglus i ddarlledu ym Mhrydain”.

‘Brand adnabyddus’

Manteisiodd y Prif Weinidog, David Cameron, ar y cyfle i ganmol y gorfforaeth yn ystod araith tros aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd yn yr Amgueddfa Brydeinig.

Dywedodd fod y BBC fel darlledwr yn “un o’r brandiau mwyaf adnabyddus ar y blaned”.

“Mae pobl o bedwar ban byd yn gwylio ein ffilmiau, yn dawnsio i’n cerddoriaeth, yn heidio i’n horielau a’n theatrau, yn cefnogi ein timau pêl-droed ac yn anwylo’n sefydliadau,” meddai’r Prif Weinidog.

Yn ôl adroddiadau, fe allai’r Papur Gwyn gael ei gyhoeddi ddydd Iau. Mae disgwyl y bydd yn cynnwys cyfundrefn dynnach fel rhan o’r Siarter Brenhinol i ddiogelu’r gwasanaeth am 11 mlynedd arall.