Mae dyn 50 oed wedi marw mewn gwrthdrawiad rhwng beic modur a sawl cerbyd arall ar yr A496 rhwng Dolgellau a Bontddu yng Ngwynedd ddoe.

Mae Heddlu’r Gogledd yn apelio am dystion wrth iddyn nhw barhau i ymchwilio i amgylchiadau’r digwyddiad tua 3 y prynhawn dydd Sul, 8 Mai.

Mae teulu’r dyn, oedd yn dod o Swydd Gaer, wedi cael gwybod.

Mae rhaid adroddiadau yn dweud mai fe fu’n gyrru’r beic modur Yamaha yn y gwrthdrawiad ond does dim cadarnhad am hynny eto.