David Cameron
Fe fydd David Cameron yn rhybuddio y gallai heddwch yn Ewrop gael ei beryglu os yw Prydain yn pleidleisio o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd (UE).

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog awgrymu bod y refferendwm yn gyfnod allweddol yn hanes y cyfandir, wrth i’r ddwy ochr yn y ddadl ddwysau eu hymdrechion cyn y bleidlais ar 23 Mehefin.

Fe fydd Cameron yn pwysleisio’r cysylltiadau hir a hanesyddol gydag Ewrop ac yn pwysleisio aberth y lluoedd arfog yng ngwledydd Prydain er mwyn sicrhau heddwch ar y cyfandir, wrth iddo bwysleisio’r achos dros aros yn yr Undeb.