Bydd y Tywysog Harry a Michelle Obama ymhlith y rhai fydd yn bresennol yn Florida ar gyfer seremoni agoriadol Gemau Invictus ddydd Sul.

Ymhlith y rhai fydd yn perfformio yn ystod y seremoni mae seren Hollywood Morgan Freeman, a’r cantorion James Blunt a Laura Wright.

Cafodd y Gemau eu cynnal am y tro cyntaf yn Llundain yn 2014.

Bydd y Gemau’n gweld mwy na 500 o gyn-filwyr o 14 o wledydd yn cystadlu yn erbyn ei gilydd dros gyfnod o bum niwrnod.

Cafodd y medalau cyntaf eu rhoi ddydd Sadwrn, ond bydd y prif gystadlaethau’n dechrau ddydd Llun.

Cyn y seremoni agoriadol, fe fydd cyn-Arlywydd yr Unol Daleithiau George Bush yn areithio am ‘glwyfau anweledig’ rhyfeloedd.

Dywedodd Harry: “Mae’n mynd i fod yn anhygoel, bydd yr awyrgylch yn anghredadwy.

”Mae rhai tocynnau ar ôl i’w gwerthu ond ry’n ni’n gwahodd pobol i ddod a mwynhau’r hyn fydd yn digwydd, mae’n mynd i fod yn wych.”