Mae’r wicedwr profiadol Mark Wallace yn dychwelyd i garfan griced Morgannwg ar gyfer ymweliad Swydd Gaerwrangon â Chaerdydd yn ail adran y Bencampwriaeth ddydd Sul.
Cafodd ei adael allan o’r garfan a gollodd yn erbyn Swydd Gaint yr wythnos diwethaf.
Ar ôl ymddangos yn y tîm am y tro cyntaf yr wythnos diwethaf, mae lle ymhlith y deuddeg unwaith eto i Harry Podmore, y bowliwr ifanc sydd ar fenthyg o Swydd Middlesex.
Ond mae’r batiwr o Dde Affrica, Colin Ingram wedi’i anafu o hyd.
Yr ornest rhwng y ddwy sir hyn oedd un o uchafbwyntiau tymor 2014, wrth i gapten Swydd Gaerwrangon, Daryl Mitchell a batiwr agoriadol Morgannwg, Will Bragg daro canred yr un wrth i’r ornest orffen yn gyfartal.
Bydd hon yn ornest anodd i Forgannwg, sy’n dal i aros am eu buddugoliaeth gynta’r tymor hwn, gan mai Swydd Gaerwrangon oedd un o’r siroedd a gwympodd o’r adran gyntaf y tymor diwethaf.
Morgannwg oedd yn fuddugol pan gyfarfu’r ddwy sir yn 2013, a dydy Swydd Gaerwrangon ddim wedi ennill gornest Bencampwriaeth yng Nghaerdydd ers 1991.
Carfan Morgannwg: J Rudolph (capten), W Bragg, C Cooke, A Donald, M Hogan, D Lloyd, C Meschede, H Podmore, A Salter, T Van der Gugten, G Wagg, M Wallace
Carfan Swydd Gaerwrangon: D Mitchell (capten), B D’Oliveira, Moeen Ali, J Clarke, T Kohler-Cadmore, R Whiteley, B Cox, J Leach, E Barnard, M Henry, J Shantry, C Morris