Y Drenewydd 1–2 Airbus
Mae Airbus gam yn nes at Gynghrair Ewropa ar ôl trechu’r Drenewydd yn rownd gynderfynol gemau ail gyfle Uwch Gynghrair Cymru ar Barc Latham brynhawn Sadwrn.
Doedd gôl anhygoel Shane Sutton ddim yn ddigon i’r Robiniaid gan i Matty McGinn sgorio o’r smotyn i Airbus ddwy waith yn yr hanner cyntaf.
Hanner Cyntaf
Airbus a ddechreuodd orau ac roeddynt ar y blaen wedi chwarter awr diolch i gic o’r smotyn gyntaf McGinn. Cafodd Tony Gray ei faglu yn y cwrt cosbi gan David Jones a rhwydodd McGinn yn hyderus o ddeuddeg llath.
Cafodd Kevin Monteiro hanner cyfle i ddyblu’r fantais wedi hanner awr ond anelodd ei foli yn syth at Jones.
Roedd y sgôr yn gyfartal yn fuan wedyn diolch i daran o ergyd gan Sutton, yr amddiffynnwr canol yn anelu hanner foli berffaith i’r gornel uchaf o ugain llath.
Wnaeth hi ddim aros yn gyfartal yn hir gan i’r dyfarnwr chwibanu am gic o’r smotyn arall bron yn syth o’r ail ddechrau. Roedd amheuaeth os oedd y drosedd ar Monteiro yn y cwrt cosbi ond doedd dim amheuaeth am gic o’r smotyn McGinn a aeth yn syth i’r gornel uchaf.
Ail Hanner
Roedd y Drenewydd fymryn yn well wedi’r egwyl ond prin oedd cyfleoedd clir i’r tîm cartref mewn gwirionedd. Ceisiodd Matty Owen ei lwc o bellter ond llwyddodd Coates i arbed yn gymharol gyfforddus.
Cafodd Gray gyfleoedd lu yn y pen arall ond roedd prif sgoriwr Airbus wedi anghofio ei esgidiau sgorio. Anelodd un ergyd heibio’r postyn cyn taro foli dros y trawst a phenio cyfle arall heibio’r postyn.
Achosodd hynny ddiweddglo cyffrous ond daliodd Airbus eu gafael i sicrhau buddugoliaeth haeddiannol.
Bydd Airbus yn wynebu Cei Connah neu Gaerfyrddin am le yng Nghynghrair Ewropa yr wythnos nesaf, wedi i’r ddau dîm hynny herio’i gilydd yfory.
.
Y Drenewydd
Tîm: Jones, Williams, Edwards (Ryan 90’), Sutton, Mills-Evans, Goodwin, Cook (Tolley 46’), Owen, Boundford, Oswell, Mitchell
Gôl: Sutton 36’
Cerdyn Melyn: Tolley 88’
.
Airbus
Tîm: Coates, Owens, Pearson, Kearney, Williams, McGinn, Murphy (Spittle 90’), Barrow (Budrys 69’), Monteiro (Owen 73’), Gray, Wignall
Goliau: McGinn [c.o.s.] 14’, [c.o.s.] 37’
Cerdyn Melyn: Wignall 88’
.
Torf: i ddilyn