Zebre 47–22 Dreigiau Casnewydd Gwent

Daeth tymor gwael y Dreigiau i ben yn hynod siomedig wrth iddynt golli oddi cartref yn erbyn Zebre ar y Sadwrn olaf.

Sgoriodd yr Eidalwyr bump cais i gyd mewn buddugoliaeth gyfforddus yn y Stadio Sergio Lanfranchi.

Er mai cic gosb o droed Angus O’Brien oedd pwyntiau cyntaf y gêm, roedd Zebre ugain pwynt ar y blaen erbyn hanner amser. Croesodd Oliviero Fabiani a Kayle Van Zyl am gais yr un, trosodd Carlo Canna y ddau a llwyddo gyda thair cic gosb hefyd.

Rhoddodd ceisiau Rynard Landman (2) a Hallam Amos yn yr ail hanner wedd fymryn yn fwy parchus ar ochr y Dreigiau o’r sgôr-fwrdd.

Ond croesodd Zebre am dri chais ail hanner hefyd gyda Leonardo Sarto, Bruno Postiglioni a Kelly Haimona yn cwblhau crasfa go iawn.

Nid yw’r canlyniad siomedig yn gwneud gwahaniaeth i safle terfynol y Dreigiau yn nhabl y Pro12, maent yn gorffen y ddegfed. Mae buddugoliaeth Zebre ar y llaw arall yn eu codi dros Treviso i’r unfed safle ar ddeg ac yn sicrhau mai hwy fydd yn cynrychioli’r Eidal yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop y tymor nesaf.

.

Zebre

Ceisiau: Oliviero Fabiani 7’, Kayle Van Zyl 17’, Leonardo Sarto 58’, Bruno Postiglioni 62’, Kelly Haimona 64’

Trosiadau: Carlo Canna 9’, 18’, 58’, 62’, 64’

Ciciau Cosb: Carlo Canna 12’, 38, 40’, 46’

.

Dreigiau

Ceisiau: Rynard Landman 53’, 71’, Hallam Amos 80’

Trosiadau: Rhys Jones 54’, 72’

Cic Gosb: Angus O’Brien 1’