Arlene Foster, Prif Weinidog Gogledd Iwerddon (llun: PA)
Fe fydd Arlene Foster a Martin McGuinness yn parhau fel Prif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog Gogledd Iwerddon.

Ar ôl i’r holl etholaethau gael eu cyfrif wedi’r etholiad ddydd Iau, mae’r DUP a Sinn Fein wedi dal gafael ar eu safle fel prif bleidiau’r glymblaid sy’n rhannu grym yn Stormont.

Mae’r DUP wedi ennill 38 allan o’r cyfanswm o’r 108 o seddau yn y Cynulliad – union yr un nifer ag a gawson nhw yn eu canlyniad gorau erioed y tro diwethaf. Mae Sinn Fein yn ail ar 28 sedd – un yn llai na’r tro blaen.

O ran gweddill y seddau, mae gan Unoliaethwyr Ulster 16, yr SDLP 12, y Gynghrair 8, PBPA 2, y Gwyrddion 2 a’r TUV (Traditional Unionist Voice) a’r aelod annibynnol Claire Sugden un yr un.