Mae merch yn ei harddegau wedi marw ar ol cymryd pilsen Ecstasi o’r math sy’n cael ei galw ‘MasterCard’.

O ganlyniad i’r farwolaeth, mae Heddle Greater Manchester wedi cyhoeddi rhybudd yn annog pawb sydd wedi llyncu pilsen debyg i fynd i weld y meddyg yn syth bin.

Fe gafodd yr heddlu eu galw tua 5yb heddiw i Victoria Warehouse yn Trafford ger Manceinion.

Roedd y ferch wedi adweithio i’r bilsen MasterCard yr oedd wedi’i chymryd yn ystod noson allan.