Mae dyn 21 oed o dde Lloegr wedi ymddangos gerbron llys wedi’i gyhuddo o gynllwynio i deithio i Syria er mwyn cymryd rhan mewn “jihad treisgar”.

Fe gafodd Mubashir Jamil o Luton ei arestio ddydd Mercher, yn ei dref enedigol.

Fe ymddangosodd gerbryn Llys Ynadon Westminster heddiw wedi’i gyhuddo o baratoi i gyflawni troseddau terfysgol rhwng Tachwedd y llynedd ac Ebrill 28, 2016.

Mae Mubashir Jamil wedi’i gadw yn y ddalfa nes y bydd yn ymddangos gerbron Llys yr Old Bailey ar Fehefin 3.