Ken Livingstone Llun: Fforwm Economaidd y Byd CCA 2.0
Mae cyn-Faer Llundain Ken Livingstone wedi cael ei atal o’r Blaid Lafur “am ddwyn anfri ar y blaid” ar ôl iddo amddiffyn sylwadau gwrth-semitig honedig gan Aelod Seneddol.

Roedd ffigyrau amlwg yn y blaid, gan gynnwys arweinydd yr wrthblaid yn Nhŷ’r Cyffredin a’r AS dros y Rhondda, Chris Bryant, wedi rhoi pwysau ar arweinydd y blaid Jeremy Corbyn yn galw arno i ddiarddel Ken Livingstone ar ôl iddo ddweud bod sylwadau a wnaeth Naz Shah ar Twitter cyn iddi ddod yn AS “dros ben llestri” ond nad oedan nhw yn wrth-Semitig.

Mae’r Aelod Seneddol Llafur tros Orllewin Bradford, Naz Shah wedi cael ei diarddel o’r blaid wrth i ymchwiliad gael ei gynnal i negeseuon gwrth-Semitig ar wefannau cymdeithasol.

Cefndir

Yn 2014, roedd Naz Shah wedi postio llun dychanol ar Facebook oedd yn awgrymu y dylid symud Israel i’r Unol Daleithiau fel ateb i’r anghydfod rhwng Israel a Phalestina.

Tynnodd gwefan Guido Fawkes sylw hefyd at bostiad blaenorol ganddi oedd yn defnyddio’r hashnod #IsraelApartheid uwchben sylw oedd yn dweud bod ymddygiad Hitler yn yr Almaen yn gyfreithlon.

Mewn cyfweliad heddiw, honodd Ken Livingstone bod Hitler wedi cefnogi Seioniaeth cyn yr Holocost cyn mynnu nad oedd erioed wedi clywed am unrhyw un o fewn y Blaid Lafur a oedd yn wrth-Semitig.

Dywedodd ymgeisydd Llafur i fod yn faer Llundain, Sadiq Khan bod ei sylwadau yn rhai “ofnadwy” ac yn “anfaddeuol”.

Fe wnaeth AS Bassetlaw, John Mann, fynd mor bell a herio Ken Livingstone tu allan i stiwdios darlledu yn Westminster wrth i’r ddau gyrraedd ar gyfer cyfweliadau gan ei alw’n  “apolegwr dros y Natsïaid.”

Mae prif chwip y blaid Rosie Winterton hefyd wedi galw am gyfarfod gyda John Mann i drafod ei ymddygiad.