Theresa May, yr Ysgrifennydd Cartref (Llun: PA)
Mae Ysgrifennydd Cartref San Steffan, Theresa May wedi canmol “urddas a dyfalbarhad eithriadol” teuluoedd y 96 o bobl a gafodd eu lladd yn Hillsborough wrth iddyn nhw geisio cyfiawnder.

Wrth annerch Tŷ’r Cyffredin, dywedodd nad yw hi’n “bosibl deall yr hyn maen nhw wedi bod drwyddi”.

Ychwanegodd fod y trychineb wedi bod yn “sioc i’r wlad hon” ac “wedi difetha cymuned”.

“Ni ddylai unrhyw un orfod goddef yr hyn y mae’r teuluoedd a’r goroeswyr wedi bod drwyddi ac ni ddylai unrhyw un orfod brwydro blwyddyn ar ôl blwyddyn a degawd ar ôl degawd am y gwirionedd.”

Roedd rheithgor yn y cwest i farwolaethau’r 96 o gefnogwyr pêl-droed Lerpwl ddoe wedi dod i’r casgliad eu bod wedi eu lladd yn anghyfreithlon.

Dywedodd Theresa May bod y dyfarniad o “bwysigrwydd cenedlaethol.”

Ychwanegodd fod rhaid i weinidogion ystyried sut mae’r wladwriaeth yn ymateb i drychinebau ar raddfa Hillsborough er mwyn rhoi mwy o ystyriaeth i deimladau dioddefwyr a’u teuluoedd.

Ar ôl darllen dyfarniad y rheithgor yn llawn, amlinellodd Theresa May y cyhuddiadau cyfreithiol sy’n cael eu hystyried gan Wasanaeth Erlyn y Goron.

Daeth y rheithgor i’r casgliad bod camgymeriadau gan yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans wedi cyfrannu at farwolaethau 96 o bobol.

Penderfynon nhw hefyd nad oedd y cefnogwyr yn gyfrifol mewn unrhyw ffordd am y marwolaethau, yn groes i ddyfarniad y cwest gwreiddiol yn 1991.

Dywedodd Theresa May: “Mae diweddglo’r cwest yn dod â cham pwysig i ben ers cyhoeddi adroddiad Panel Annibynnol Hillsborough.

“Diolch i’r adroddiad hwnnw a phenderfyniadau’r cwest, rydym bellach yn gwybod y gwir am yr hyn a ddigwyddodd ar y diwrnod hwnnw yn Hillsborough.”

‘Gwall argraffu’ – The Times

Yn y cyfamser mae’r papur newydd ‘The Times’ wedi dweud mai gwall argraffu oedd yn gyfrifol am y ffaith nad oedd sôn am ganlyniadau cwest Hillsborough ar dudalen flaen eu hargraffiad cyntaf fore Mercher.

Cafodd y gwall honedig ei gywiro erbyn yr ail argraffiad.

Wrth egluro’r sefyllfa ar eu tudalen Twitter, dywedodd y papur eu bod nhw wedi arwain gyda’r stori ar eu gwefan, a bod tudalennau wedi’u neilltuo yng nghanol y papur ar gyfer y stori.

Mae’r stori hefyd yn ymddangos ar dudalen gefn y papur, ac mae eitem ryngweithiol am y 96 fu farw hefyd yn ymddangos  ar y wefan.

Dywedodd y papur: “Fe wnaethon ni gamgymeriad gyda’r dudalen flaen, ac fe wnaethon ni ei gywiro ar gyfer yr ail argraffiad.”

Sylw yn y papurau

Stori Hillsborough sydd ar flaen nifer helaeth o bapurau newydd cenedlaethol ddydd Mercher, gydag ambell eithriad amlwg.

Mae ‘i’, y ‘Daily Star’ a’r ‘New Day’ yn adrodd bod y 96 fu farw a’u teuluoedd wedi cael cyfiawnder, tra bod y ‘Guardian’ yn sôn am gyfiawnder ar ôl 27 o flynyddoedd.

Mae’r ‘Daily Mirror’ yn sôn am y galw am erlyn unigolion a sefydliadau a gafodd eu crybwyll yn sylwadau’r crwner yn dilyn y cwest ddoe – gan gynnwys Heddlu De Swydd Efrog, peirianwyr stadiwm Hillsborough a’r gwasanaethau brys.

Mae’r ‘Daily Telegraph’ yn arwain gyda stori am y posibilrwydd y bydd yr heddlu’n cael eu herlyn yn sgil y rheithfarn.

Dydy’r ‘Daily Mail’ na’r ‘Daily Express’ ddim yn arwain gyda stori Hillsborough, ond maen nhw’n cyfeirio ar y dudalen flaen at straeon sy’n ymddangos y tu fewn i’r papurau.

Mae’r ‘Liverpool Echo’, yn y cyfamser, yn arwain gyda’r pennawd ‘Truth & Justice’.

Ond mae’r ‘Sun’, sydd wedi cael eu beirniadu ers cyhoeddi straeon camarweiniol am ymddygiad cefnogwyr ar ddiwrnod trychineb Hillsborough, yn arwain gyda stori am Brif Weinidog Prydain, David Cameron yn defnyddio WhatsApp i baratoi ar gyfer ymgyrch refferendwm ar aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd.