David Edwards, Ymgeisydd Ukip yng Ngorllewin Clwyd, Llun: O gyrif Twitter David Edwards
Fe fydd dau frawd yng nghyfraith yn mynd benben â’i gilydd yn y ras i’r Cynulliad eleni.
Yn etholaeth Gorllewin Clwyd, bydd y Ceidwadwr, Darren Millar, yn amddiffyn y sedd, tra bydd ei frawd yng nghyfraith, David Edwards o UKIP yn ceisio mynd â’r sedd honno oddi wrtho.
Dywedodd David Edwards wrth golwg360, nad oedd ei frawd yng nghyfraith yn rhy hapus am y ffaith ei fod yn sefyll yn ei erbyn.
“Siaradais a fe cyn (cyhoeddi ei fod yn sefyll), yn amlwg, doedd e ddim yn hapus i ddechrau ond dwi’n meddwl ei fod yn hyderus (ei fod yn mynd i gadw’i sedd).”
Serch hynny dywed David Edwards ei fod yn credu bod ganddo “siawns go iawn” i ennill sedd i Ukip.
‘Colli cysylltiad’
Fe awgrymodd David Edwards hefyd na ddylai ACau dreulio gormod o amser yn y swydd gan fod tueddiad i “golli cysylltiad â bywydau bob dydd pobol arferol”.
“Dwi’n gwybod bod Darren yn gweithio’n galed ond mae wedi cael dau dymor (fel Aelod Cynulliad) a dwi’n meddwl eich bod chi’n colli cysylltiad â bywydau bob dydd pobol arferol wedyn,” meddai.
“Mae Caerdydd yn glwb clyd iawn, a dwi’n meddwl y mwyaf o amser rydych yn ei dreulio yno, y mwyaf rydych yn dod i arfer a’r ffordd maen nhw’n gwneud pethau.
“Y tu ôl i ddrysau caeedig yn y Senedd, mae’n le cyfeillgar iawn (rhwng aelodau) a dwi’n meddwl bod hynny yn effeithio ar ba mor dda y gallwch chi gynrychioli eich etholaeth.”
Yn ôl David Edwards, ni fydd gan UKIP chwip yn y Cynulliad os bydd y blaid yn llwyddo i ennill seddi ac am hynny bydd yr aelodau yn gallu “gwneud yn union yr hyn y mae’r etholwyr am i ni wneud.”
Y blaid yn ‘annibynnol’ o Loegr
Mae’n mynnu bod UKIP yng Nghymru “yn ffyrnig annibynnol” o’r blaid yn Lloegr, er gwaetha’r ffaith bod aelodau o Loegr fel Neil Hamilton a Mark Reckless, yn sefyll yng Nghymru.
“Pan wnes i glywed yn gyntaf am y posibilrwydd o gael Neil Hamilton a Mark Reckless yn sefyll, doeddwn i ddim yn rhy hapus, ond ar ôl cwrdd â’r ddau, maen nhw’n cynnig llawer i’r Cynulliad,” meddai.
“Os yw eu calonnau yn y lle iawn, a bod ganddyn nhw lawer i gynnig, dwi ddim yn meddwl y dylwn ni fod yn gwrthod pobol fel hynny.”
‘Iechyd yw’r pwnc sy’n codi fwyaf’
Dywedodd David Edwards bod ymgyrchu ar gyfer yr etholiad yn “mynd yn dda iawn”, a bod siarad â phobol ar stepen y drws wedi rhoi “egni newydd” iddo.
“Mae’n ddiddorol clywed am yr heriau sy’n wynebu pobol. Iechyd yw’r pwnc sy’n cael ei godi fwyaf,” meddai’r ymgeisydd.
Cyfweliad: Mared Ifan