Llys y Crwner yn Warrington
Mae’r rheithgor yng nghwestau Hillsborough wedi  dod i benderfyniad mwyafrifol wrth ystyried a oedd y 96 o gefnogwyr wedi’u lladd yn anghyfreithlon.

Roedd y Crwner Syr John Goldring wedi dweud wrth y rheithgor y byddai’n derbyn penderfyniad o 7-2 neu 8-1 ynglŷn â’r mater petai nhw’n methu dod i gytundeb.

Fe fydd y penderfyniad yn cael ei gyhoeddi’n ffurfiol o 11yb ddydd Mawrth er mwyn rhoi cyfle i’r teuluoedd ddod i’r llys, meddai’r crwner.

Mae’n debyg bod y rheithgor eisoes wedi awgrymu wrth y llys yn Warrington eu bod wedi dod i benderfyniad unfrydol ynglŷn â’r cwestiynau eraill oedd dan ystyriaeth.

Mae’r rheithgor wedi cael cais i ateb holiadur cyffredinol o 14 o gwestiynau yn ogystal â nodi amser ac achos marwolaeth pob un o gefnogwyr Lerpwl fu farw yn y trychineb ar 15 Ebrill 1989.

Maen nhw’n cynnwys cwestiynau ynglŷn â threfniadau’r heddlu cyn y gêm, diogelwch yn y stadiwm, ymateb y gwasanaethau brys i’r trychineb a’r cwestiwn ynglŷn ag oedd y cefnogwyr wedi’u lladd yn anghyfreithlon.

Mae’r gwrandawiadau wedi cael eu cynnal ers mwy na dwy flynedd, gyda’r rheithgor yn clywed tystiolaeth gan 800 o lygad-dystion dros gyfnod o fisoedd.

Fe ddechreuodd y rheithgor ystyried eu penderfyniadau ar 6 Ebrill.

Un o’r materion allweddol roedd yn rhaid iddyn nhw benderfynu arno oedd ymddygiad cyn-Brif Arolygydd Heddlu De Efrog, David Duckenfield ac a oedd ei fethiant yn ei ddyletswyddau wedi achosi’r marwolaethau.