Mae’r heddlu sy’n ymchwilio i farwolaeth dau ddyn yng ngogledd Lloegr yn trin eu marwolaethau fel llofruddiaeth.

Cafodd cyrff Daniel Hatfield, 52, a Matthew Higgins, 49, eu darganfod mewn gardd yn Hull nos Wener.

Dywedodd yr heddlu eu bod nhw wedi cael “anafiadau sylweddol”.

Cafodd eu cyrff eu darganfod gan gymydog.

Mae dwy ddynes 27 a 36 oed a dyn 38 oed wedi cael eu harestio mewn perthynas â’r achos.