Mae perchennog Alton Towers wedi pleidleisio’n euog i gyhuddiad o dorri’r Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle yn achos gwrthdrawiad ar un o’i atyniadau.

Mae’n debygol y gallai cwmni Merlin wynebu “dirwy fawr iawn” yn dilyn yr achos llys yn Swydd Stafford heddiw.

Cafodd pum person eu hanafu’n ddifrifol ar atyniad y Smiler, gan gynnwys dwy ddynes a gollodd goes yr un, ar ôl i’w cerbyd wrthdaro yn erbyn cerbyd llonydd ar yr un trac.

Roedd Merlin Attractions wedi derbyn cyfrifoldeb yn flaenorol am y gwrthdrawiad ar ôl cynnal ei ymchwiliad mewnol ei hun i’r digwyddiad.

Mae’r Barnwr Rhanbarthol, Jack McGarva, wedi rhybuddio y gall y cwmni wynebu “dirwy fawr iawn”.