Peter Black
Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol wedi addo y byddan nhw yn sicrhau bod y nifer fwyaf erioed o dai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu, os fyddan nhw’n rhan o Lywodraeth Cymru yn dilyn etholiad y Cynulliad sydd ymhen llai na phythefnos.

Wrth ymweld â safle parc gwyrdd ym Mhort Talbot, dywedodd y Lib Dem  Peter Black bod y blaid eisiau cynyddu’r gwariant ar dai fforddiadwy.

“Fe fydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn arwain chwyldro mewn adeiladu tai, gan godi 20,000 o dai newydd fforddiadwy.”

Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn neilltuo £35 miliwn y flwyddyn i godi tai fforddiadwy. Mae’r Democratiaid Rhyddfrydol yn honni y byddan nhw yn gwario £70 miliwn y flwyddyn yn nhymor nesaf y Cynulliad.

Dywedodd Peter Black: “Mae pobl angen llywodraeth sydd gydag uchelgais, ac eto mae ffigyrau yn dangos fod y nifer o dai a adeiladwyd gan y Blaid Lafur wedi disgyn. Mae’r diffyg uchelgais yn annerbyniol.

“Yr ydym yn gyson wedi rhoi adeiladu tai ar flaen yr agenda wleidyddol. Fe fyddwn yn gweithredu ar ein geiriau gan godi’r nifer uchaf erioed o dai fforddiadwy.”