Andrew RT Davies (Llun: Gwefan y Ceidwadwyr)
Mae arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wedi dweud bod diffyg diddordeb yn etholiadau’r Cynulliad cynddrwg nes ei fod yn “argyfwng”.

Yn ôl Andrew RT Davies does dim llawer o dystiolaeth fod etholwyr yn derbyn y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw cyn yr etholiad ar Fai’r 5ed.

Mae’r etholiad fis nesaf yn un “anferth”, meddai, gan fod mwy o bwerau ar y ffordd i Fae Caerdydd, ond dwy’r etholwyr ddim yn sylwi hynny.

“Yn amlach na pheidio, dros yr wythnosau diwethaf, mae’n teimlo fel nad yw pobol yn cael y cyfle i wrando,” meddai.

“Wrth siarad â phobol sydd yn rhyw led-ddilyn gwleidyddiaeth yng Nghymru, dyw llawer ddim hyd yn oed yn gwybod fod yr ymgyrch yma wedi dechrau eto … er gwaethaf y ffaith fod pleidleisiau post wedi cyrraedd eisoes.”

Dywedodd arweinydd y Ceidwadwyr fod y cyfryngau wedi bod yn talu sylw i faterion eraill ar draul etholiad y Cynulliad, a bod hynny’n “gwneud can â Chymru, cymunedau Cymru a democratiaeth Cymru”.

Ac mae gwleidyddion o’r pleidiau eraill yn cytuno, gydag ymgeisydd Plaid Cymru yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Penfro Simon Thomas yn credu fod cysgod refferendwm Ewrop yn ffactor.

‘Record ofnadwy’

Yn ôl Andrew RT Davies, mae gormod o sylw’n cael ei roi i bethau fel ffurflenni trethi gwleidyddion, a dim digon i faterion polisi pwysig fel iechyd, addysg a llywodraeth leol – tri maes sy’ dan reolaeth Llywodraeth Cymru fydd yn cael ei hethol ar Fai’r 5ed.

Mewn araith yng Nghaerdydd mae disgwyl iddo hefyd dynnu sylw at y ffaith nad yw’r ganran sydd yn pleidleisio yn etholiadau Cynulliad erioed wedi bod yn uwch na 50%, ac mai prin yw’r seneddau eraill ar draws y byd sydd â “record mor ofnadwy”.

“Pan mae cymaint o bobol yn eistedd ar restrau aros [y Gwasanaeth Iechyd], ydi pobol wir eisiau gweld ffurflenni trethi eu gwleidyddion?” gofynnodd Andrew RT Davies mewn cyfweliad diweddar â golwg360.

Yn y bôn beth mae pobol eisiau ei glywed yw atebion i’r problemau maen nhw’n ei wynebu.”

Ewrop yn ‘gysgod’

Nid yw Simon Thomas o Blaid Cymru yn credu fod diddordeb yn yr etholiad Cynulliad eleni yn is nag arfer – ond mae’n cyfaddef bod problem hir dymor yn bodoli.

“Dw i’n credu fod yna greisus ehangach, bod y ganran sy’n troi mas yn isel yng Nghymru a Phrydain yn ehangach, mae wedi bod yn syrthio ers ugain mlynedd a mwy,” meddai wrth golwg360.

“Beth sydd wedi digwydd yw bod rhai o benderfyniadau San Steffan, yn enwedig yr un ar gynnal refferendwm Ewrop tua’r un adeg, wedi cysgodi’r etholiad.

“Felly d’yn ni ddim yn cael y trafodaethau uniongyrchol hynny ar faterion Cynulliad fydden ni’n disgwyl, r’yn ni’n trafod pethau fel Ewrop, [dyfodol cwmni dur] Ta-ta a phethau ehangach.”

Digon o ddiddordeb yn y Gogs

Mae Aled Roberts, ymgeisydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Ngogledd Cymru, wedi dweud wrth golwg360 nad yw pynciau fel refferendwm Ewrop wedi helpu gyda’r gwaith o dynnu sylw at etholiad y Cynulliad – ond mae cyfrifoldeb hefyd ar wleidyddion i ledaenu eu neges, meddai.

“Yn y gogledd dw i’n teimlo fel bod yna ddigon o ddiddordeb,” meddai Aled Roberts.

“Ond yn amlwg mae fyny i bleidiau hefyd i roi rhyw fath o sbardun i bobol, er mwyn iddyn nhw weld ei bod hi’n bwysig bod y bleidlais maen nhw’n ei rhoi yn mynd i gael effaith ar bolisïau Cymru yn y pen draw, ac effeithio ar eu bywydau pob dydd nhw.”