Mae dwy ferch 14 oed wedi cael eu cyhuddo o lofruddio mam a merch yn eu cartref yn Swydd Lincoln.

Cafwyd hyd i gyrff y ddwy mewn tŷ yn Spalding brynhawn dydd Gwener.

Bydd y ddwy ferch yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Lincoln ddydd Llun.

Dydy’r meirw ddim wedi cael eu hadnabod yn ffurfiol, ond mae lle i gredu mai dynes 49 oed a merch 13 oed ydyn nhw.

Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal maes o law, ac mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.