Fe fu Jeremy Corbyn yn cwestiynu David Cameron heddiw yn y sesiwn Holi'r Prif Weinidog cyntaf ers y Pasg (llun: PA)
Mae Jeremy Corbyn wedi honni ei fod yn talu mwy o dreth na rhai o’r cwmnïau y mae David Cameron yn eu “hadnabod yn dda”.

Roedd yr arweinydd Llafur yn amddiffyn ei fanylion treth, a gafodd eu galw gan y Prif Weinidog yn “hwyr, anhrefnus a gwallus”.

Ar ôl cyhoeddi ei fanylion treth, daeth i’r amlwg nad oedd Jeremy Corbyn wedi cynnwys miloedd o bunnoedd o incwm pensiwn, ac fe gafodd ddirwy am gyflwyno’r wybodaeth yn hwyr.

Roedd y ddau yn dadlau yn dilyn gollwng y gath o’r cwd ar bapurau Panama, sy’n dangos pa gwmnïau a phobol gyfoethog a sefydlodd gyfrifon ariannol tramor i osgoi talu treth ym Mhrydain.

Fe wnaeth y Prif Weinidog elwa ar fuddsoddiad ei dad mewn cyfrif ariannol o’r fath, a gafodd ei gyhoeddi yn y dogfennau.

Dim cofrestr berchnogaeth i wledydd tramor

Yn ystod sesiwn holi’r Prif Weinidog, fe bwysodd Jeremy Corbyn ar David Cameron dros ymrwymiad dibynwledydd Prydeinig, sy’n aml yn cael eu hystyried fel hafanau treth, i staff gwasanaeth Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC).

Fe frathodd David Cameron yn ôl drwy feirniadu arweinydd y blaid Lafur ar ei fanylion treth, gyda Corbyn yn ymateb gan ddweud ei fod yn talu mwy o dreth na rhai cwmnïau y mae Cameron yn adnabod.

Cyhoeddodd y Prif Weinidog gynllun i gyhoeddi cofrestr lawn o gwmnïau â pherchnogaeth ‘buddiannol’ yn y wlad hon ym mis Mehefin ond cyfaddefodd na fydd un ar gyfer tiriogaethau dros y dŵr.