David Cameron (Llun PA)
Fydd Prif Weinidog Prydain ddim yn ymddiswyddo os bydd y refferendwm ar Ewrop yn mynd o blaid gadael yr Undeb.

Dyna addewid David Cameron wrth iddo gael ei holi yn Nhŷ’r Cyffredin heddiw.

Fe ddywedodd y byddai’n aros yn y swydd beth bynnag oedd y canlyniad – mae llawer o sylwebyddion wedi dweud y byddai’n rhaid iddo fynd pe bai’r bleidlais o blaid gadael.

Fe ddaeth y cwestiwn gan y cyn AS Ceidwadol, Douglas Carswell, sydd bellach yn AS Ceidwadol.

“Os yw pobol Prydain yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, a fydd y Prif Weinidog yn aros yn ei swydd i weithredu eu penderfyniad?” meddai.

“Byddaf,” meddai David Cameron.