Un o'r ystafelloedd yng nghartref Steve Alker (Llun yr RSPCA)
Mae’r gymdeithas i atal creunlondeb i anifeiliaid wedi cyhoeddi lluniau’n dangos cyflwr “dychrynllyd” cartref pâr priod sydd wedi eu gwahardd rhag cadw anifeiliaid am 10 mlynedd.
Fe gafodd y cyn-bencampwr dartiau, Steve Alker, 52, o Bontyberem, Sir Gaerfyrddin, ei erlyn yr wythnos ddiwetha’, gyda’i wraig Natalie, 45, am fethu â chadw eu hanifeiliaid anwes mewn amgylchiadau addas.
Roedd e wedi pledio’n euog i bump cyhuddiad a hithau i dri.
Y troseddau
Roedd swyddogion wedi dod o hyd i gi, pum cath a bochdew’n byw mewn amtylchaidau “dychrynllyd” ac fe gafodd Steve Alker hefyd ei gosbi am gam-drin neidr trwy fethu â rhoi gwres iddi.
Fe gafodd y ddau orchymyn cymunedol 12 mis gyda 70 awr o waith di-dâl yr un a chael gorychymyn i beidio â chadw anifeiliaid am ddeng mlynedd.
Fe fydd rhaid iddyn nhw dalu costau o £300 a tholl llys o £60.
Y cefndir
Llysenw Steve Alker oedd “Y Dyn Nadroedd” ond roedd yn enwog hefyd am ennill Pencampwriaeth Ddartiau Agored Cymru yn 1998.
Ond, yn ôl arolygydd yr RSPCA, Keith Hogben, roedd misoedd o faw anifeiliaid ym mhob ystafell yn eu cartref.