Mae Llafur wedi galw ar Lywodraeth Prydain i gael gwared yn llwyr â’r tollau ar bontydd Hafren.
Ond fe gawson nhw’u cyhuddo yn eu tro gan y Ceidwadwyr o wneud “datganiad cyfleus” yn union cyn etholiadau’r Cynulliad.
Fe ddaeth y gwrthdaro rhwng llefarwyr y ddwy blaid ar Gymru yn ystod y cwestiynau Cymreig yn Nhŷ’r Cyffredin.
‘Dim digon’
Er bod y Canghellor wedi addo haneru’r tollau ar y pontydd pan ddôn nhw’n ôl i ddwylo cyhoeddus, doedd hynny ddim yn ddigon, meddai’r llefarydd Llafur, Nia Griffiths.
Fyddai busnesau ddim yn arbed cymaint â’r disgwyl, meddai hi, gan fod y toriad o 50% yn cynnwys cael gwared ar Dreth ar Werth ac mae busnesau’n gallu hawlio hwnnw’n ôl.
“Yn lle gadael i fusnesau barhau i dalu miloedd o bunnoedd bob blwyddyn, pam na wnaiff y Llywodraeth chwarae’n deg a chael gwared ar y tollau’n llwyr?” meddai’r bore yma.
‘Galwad gyfleus’
Ond “galwad gyfleus” cyn etholiad oedd hwn, yn ôl Alun Cairns, yn ei ymddangosiad cynta’ yn y Senedd ers dod yn Ysgrifennydd Cymru.
Roedden nhw hefyd wedi galw am ddatganoli’r tollau, ond roedd peryg wedyn, meddai, y bydden nhw’n defnyddio’r pontydd yn gronfa arian i gynnal incwm Llywodraeth Cymru.
Mae’r tollau ar hyn o bryd yn £6.60 i geir a £13.20 i faniau.