Mae Tata wedi wfftio awgrymiadau fod yn rhaid i unrhyw ddarpar-brynwyr gyflwyno'u ceisiadau erbyn diwedd mis Mai (llun: Ben Birchall/PA)
Mae cwmni dur Tata wedi dweud wrth golwg360 nad oes amserlen ganddynt ar gyfer derbyn cynigion i brynu eu busnesau yn y Deyrnas Unedig.
Yn gynharach heddiw fe ddywedodd Liberty House, un o’r cwmnïau sydd yn ystyried prynu gweithfeydd Tata ym Mhrydain, eu bod yn disgwyl y byddai’n rhaid cyflwyno cynigion i brynu’r busnes erbyn diwedd mis Mai.
Ond gwadu hyn wnaeth Tata, gan ddweud mai “dyfalu yn y wasg” oedd hyn yn unig ac nad oedd ganddynt amserlen bendant gan fod “trafodaethau yn parhau”.
Disgwyl ‘mwy o ddiddordeb’
Dywedodd cadeirydd cwmni Liberty House, Sanjeev Gupta, sydd eisoes wedi cyhoeddi ei fod yn bwriadu gwneud cynnig am weithfeydd Tata, ei fod yn disgwyl y bydd mwy o ddiddordeb yn y busnes.
Er hyn, ychwanegodd nad oedd yn ymwybodol o unrhyw un arall sydd am brynu’r safleoedd dur, gan gynnwys yr un mwyaf ym Mhort Talbot sy’n cyflogi 4,000 o weithwyr.
Roedd yn siarad yn uwchgynhadledd ryngwladol nwyddau’r Financial Times yn Lausanne, yn y Swistir.