Yr Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale
Mae’r Ysgrifennydd Diwylliant, John Whittingdale, dan bwysau i roi’r gorau i’w rôl o reoleiddio’r wasg yn dilyn y datgeliad ei fod wedi cael perthynas  a gweithwraig rhyw.

Dywedodd John Whittingdale, sydd wedi ysgaru, nad oedd yn ymwybodol bod y ddynes yn weithwraig rhyw a’i fod wedi dod a’r berthynas i ben ar ôl iddo ddarganfod ei bod yn ceisio gwerthu’r stori i’r papurau newydd.

Ond mae ymgyrchwyr sy’n pwyso am reolaeth fwy tynn o’r wasg wedi dweud y dylai roi’r gorau i’w rôl yn dilyn adroddiadau bod nifer o bapurau newydd wedi ymchwilio i’r honiadau ond wedi penderfynu peidio cyhoeddi’r stori.

Dywedodd gweinidog cabinet yr wrthblaid Chris Bryant wrth y BBC: “Mae ganddo berffaith hawl i gael bywyd preifat ond fe ddylai fod wedi rhoi’r gorau i reoleiddio’r wasg cyn gynted â’i fod wedi darganfod hyn.”

Fe ddechreuodd y berthynas cyn i John Whittingdale ddod yn weinidog y Cabinet yn dilyn etholiad cyffredinol 2015 ond roedd yn gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, Cyfryngau a Chwaraeon ar y pryd.

Dywedodd nad oedd y berthynas wedi dylanwadu ar unrhyw benderfyniadau a wnaeth yn y swydd.

Dywedodd Downing Street bod John Whittingdale yn “ddyn sengl sydd â hawl i fywyd preifat” a bod gan y Prif Weinidog David Cameron “hyder lawn ynddo.”

Hacked Off

Mae rhaglen BBC2 Newsnight wedi datgelu bod pedwar papur newydd – The People, The Mail on Sunday, The Sun a The Independent on Sunday – wedi ymchwilio i’r stori ond wedi dod i’r casgliad na fyddai o ddiddordeb i’r cyhoedd.

Dywedodd Brian Cathcart o’r grŵp ymgyrchu Hacked Off na fyddai’r cyhoedd yn gallu ymddiried yn ei benderfyniadau ynglŷn â’r cyfryngau,

“Nid yw hyn yn stori am fywyd preifat John Whittingdale. Mae’n stori ynglŷn â pham nad oedd y wasg wedi rhoi sylw i hyn.”

Serch hynny dywedodd sylwebydd y cyfryngau a’r cyn-olygydd papurau newydd Roy Greenslade y byddai’r papurau wedi bod yn ofalus iawn ynglŷn â chyhoeddi stori o’r fath yn sgil adroddiad Leveson i safonau’r wasg.