Holl arweinwyr yr Alban wedi datgelu manylion dros y penwythnos
Mae arweinwyr gwleidyddol yr Alban wedi datgelu manylion am eu taliadau treth yn dilyn ffrae am gofnodion ariannol Prif Weinidog Prydain, David Cameron.

Daeth i’r amlwg yn y papurau Panama fod tad Cameron, Ian wedi defnyddio dulliau osgoi talu trethi drwy ddefnyddio cyfrifon tramor yr oedd ei fab wedi elwa ohonyn nhw yn dilyn ei farwolaeth.

Cyhoeddodd arweinydd Llafur, Kezia Dugdale ac arweinydd y Ceidwadwyr, Ruth Davidson eu manylion ddydd Sadwrn.

Mae Prif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon ac arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Willie Rennie wedi cyhoeddi eu ffigurau nhw ddydd Sul.

Addawodd Sturgeon y byddai’n cyhoeddi’r ffigurau’n flynyddol tra ei bod hi mewn grym.

Wrth ennill £104,817 fe fu’n rhaid iddi dalu treth incwm gwerth £32,517 ar gyfer y flwyddyn.

Incwm Rennie oedd £52,283 ac fe fu’n rhaid iddo yntau dalu trethi gwerth £10,480.20 ar gyfer y flwyddyn.

Enillodd Kezia Dugdale £57,465 yn ystod y flwyddyn, gan dalu £11,250.40 mewn trethi.

Ar incwm o £52,223 talodd Ruth Davidson £10,513 mewn treth incwm.