Mae dyn yn cael ei holi gan yr heddlu yn Llundain, wedi i weddillion heddwas gael eu darganfod ar stad o dai.

Fe gafodd dyn 49 oed ei arestio ar amheuaeth o lofruddio mewn eiddo yn Southwark, de Llundain. Daethpwyd o hyd i weddillion PC Gordon Semple, 59, yn yr un eiddo hefyd.

Fe welwyd yr heddwas am y tro olaf ar luniau CCTV ddim ymhell o’r stad o dai yn Southwark.

Mae swyddogion yn parhau i chwilio am dystiolaeth ar y safle.

Bu Gordon Semple yn heddwas am 30 mlynedd ac yn ôl Alison Newcomb, un o reolwyr Heddlu Llundain: “Mae heddiw yn ddiwrnod trist iawn i gydweithwyr Gordon.”

Ychwanegodd Ms Newcomb bod dyn wedi ei arestio mewn eiddo ar stad dai Peabody, Southwark Street, a bod gweddillion corff wedi eu canfod yn yr eiddo hefyd.

“Oherwydd cyflwr y gweddillion hynny fe fydd hi’n cymryd peth amser i ganfod achos y farwolaeth ac adnabod y corff yn ffurfiol,” meddai Ms Newcomb.