David Cameron (PA)
Mae Prif Weinidog Prydain wedi gwadu gwneud dim o’i le wrth iddo ddod dan fwy a mwy o bwysau tros ei drefniadau treth.
Mae David Cameron wedi cael ei feirniadu ar ôl cyfadde’ gwneud elw o fuddsoddiadau mewn cwmni oedd gan ei ddiweddar dad mewn hafan dreth.
Ac mae’r feirniadaeth yn llymach fyth ar ôl iddi gymryd tri diwrnod iddo gyfadde’ hynny ar ôl cael ei holi yn sgil y datgeliadau ‘Papurau Panama’ am gleientau cwmni cyfreithiol sy’n arbenigo yn y maes.
‘Ymddiswyddo – efallai’
Fe ddywedodd Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur, Tom Watson, y gallai’r helynt arwain at ymddiswyddiad y Prif Weinidog a bod rhaid iddo fod yn gwbl agored am ei drefniadau treth.
Ac mae Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, wedi galw ar i’r Prif Weinidog gyfeirio ei achos ei hun i sylw’r Pwyllgor Safonau yn y Senedd.
Ond, mewn cyfweliad teledu, fe ddywedodd David Cameron ei hun nad oedd dim o’i le yn y buddsoddiad, ac nad ymgais i osgoi trethi oedd cwmni ei dad.
Roedd ef a’i wraig wedi talu treth incwm ar ddifidendau, meddai, a doedd maint yr elw adeg y gwerthu – yn union cyn iddo ddod yn Brif Weinidog – ddim yn ddigon i orfod talu treth elw cyfalaf.
Cyhoeddi ffurflen
Mae David Cameron hefyd wedi addo y bydd yn cyhoeddi ei ffurflen dreth – mae wedi dweud eto nad oes ganddo unrhyw randdaliadau ar hyn o bryd.
Y ddau gwestiwn mawr sy’n cael eu holi ar hyn o bryd yw:
- Pam ei bod wedi cymryd cymaint o amser i David Cameron ddatgelu’r cyfan? Cyn neithiwr, roedd wedi dweud nad oedd ganddo randdaliadau ar hyn o bryd ac na fyddai ef ai’ wraig na’u plant yn elwa o gwmni ei dad yn y dyfodol. Ond roedd wedi osgoi sôn eu bod nhw wedi elwa yn y gorffennol.
- Pam fod y cwmni’n cynnwys math arbennig o randdaliadau oedd yn cadw enwau’r perchnogion yn gudd – os nad oedd bwriad i osgoi trethi?
Mae David Cameron wedi cydnabod nad yw’n gwybod beth oedd hanes pob dimai yr oedd wedi eu derbyn yn ewyllys ei dad – fe gafodd tua £300,000.
Medden nhw
“Efallai y bydd rhaid iddo ymddiswyddo tros hyn ond dw i’n credu bod rhaid i ni wybod llawer rhagor am ei drefniadau ariannol, pam ei bod wedi cymryd tridiau iddo ateb cwestiynau dilys gan newyddiadurwyr, pam nad oedd yn onest wrth gyhoeddi dechrau oes newydd dryloyw a pha randdaliadau eraill sydd gan, neu sydd wedi bod gan, David Cameron ers iddo fod yn Aelod Seneddol.” – Tom Watson, Dirprwy Arweinydd y Blaid Lafur.
“Dw i’n falch o fy nhad a’r hyn a wnaeth a’r busnes yr oedd wedi ei sefydlu ac yn y blaen. Alla i ddim diodde’ gweld ei enw’n cael ei bardduo … Dyw Dad ddim o gwmpas i fi ofyn y cwestiynau’n awr. Ond roedd yn gweithio’n galed iawn. Fe greodd fusnes. Fe adawodd ei dŷ i fy mrawd. Fe adawodd beth arian i fi, a gadael pethau i fy mrodyr a’m chwiorydd hefyd.” – David Cameron mewn cyfweliad gydag ITV.
“Mae’r datguddiad hwn gan y Prif Weinidog yn dangos rhagrith rhonc. Fe siaradodd yn gyhoeddus am osgoi treth a hafanau treth, gan wybod ei fod wedi elwa’n bersonol o gwmnïau o’r fath. Mae hyn yn codi cwestiynau difrifol am ei hygrededd – roedd yn gwybod bod hyn yn anghywir ond aeth ati beth bynnag.” – Leanne Wood, Arweinydd Plaid Cymru.