Amaeth yn ddibynnol i raddau helaeth ar arian Ewrop
Mae un o weinidogion amaeth llywodraeth Prydain wedi dweud y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd yn “lleihau biwrocratiaeth” i ffermwyr.

Mae George Eustace, sydd yn weinidog ffermio, bwyd ac amgylchedd morol yn San Steffan, yn mynnu y byddai cefnogaeth ariannol i’r diwydiant yn parhau hyd yn oed pe bai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Ar hyn o bryd, mae’r diwydiant amaeth yng Nghymru a gweddill Prydain yn dibynnu’n helaeth ar gymorthdaliadau Ewropeaidd, ac mae llawer o fewn y sector wedi mynegi pryder ynglŷn â’r dyfodol pe bai’r wlad yn pleidleisio dros adael ym mis Mehefin.

Fis diwethaf, fe fu Prif Weinidog Prydain, David Cameron yn ymweld â fferm yng Nghymru gan rybuddio y gallai amaethwyr fod ar eu colled yn sylweddol pe na bai’r wlad yn aros yn Ewrop.

‘Llai o reolau’

Wfftio hynny, fodd bynnag, wnaeth George Eustace, un o blith nifer o Geidwadwr sydd yn credu y dylai Prydain adael yr Undeb Ewropeaidd, yn groes i arweinwyr ei blaid.

Mynnodd y Gweinidog Amaeth hefyd y byddai llywodraeth San Steffan yn medru cynnig cymorth ariannol i ffermwyr petai’r arian o Ewrop yn dod i ben, er bod Cameron wedi dweud na fydd modd gwarantu hynny.

“Dw i’n meddwl mai’r peth pwysicaf i ffermwyr yw, tasen ni’n gadael yr UE ac yn cymryd rheolaeth, y gallen ni gael gwared â’r system fiwrocrataidd gymhleth o reoleiddiadau croes-gydymffurfiol sydd gennym ni,” meddai wrth raglen Today ar BBC Radio 4.

“Byddai llawer o’r gweinyddu dibwys yn mynd, fe fydden ni’n lleihau’r baich rheoleiddiol ar ffermwyr.

Newid y drefn?

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru Andrew RT Davies, sydd yn ffermwr, hefyd wedi dweud ei fod am weld Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Dywedodd George Eustace fodd bynnag y gallai’r cymorth ariannol fyddai ar gael i amaethwyr pe bai Prydain yn gadael fod ychydig yn wahanol i’r drefn bresennol y mae Brwsel yn ei defnyddio i ddosrannu cymorthdaliadau.

“Fe fydden ni dal yn cefnogi ffermio i’r un graddau, o bosib hyd yn oed yn fwy na nawr,” mynnodd.

“Mae rhai gwledydd y tu allan i’r Undeb Ewropeaidd yn cefnogi’u ffermwyr i raddau uwch yn ariannol, ond efallai y bydden ni’n cefnogi ffermio mewn ffordd wahanol.”

Fe gyfaddefodd y Gweinidog Amaeth, fodd bynnag, nad aelodaeth Prydain o’r Undeb Ewropeaidd oedd yr unig beth fyddai’n effeithio ar brisiau cynnyrch a dyfodol ffermwyr, gan enwi prisiau ynni, y tywydd, galw rhyngwladol a chyfraddau arian fel ffactorau eraill.