Dr Barry Morgan yn pwysleisio pwysigrwydd y diwydiant dur i'r gymdeithas
Mae Archesgob Cymru wedi rhybuddio y bydd cymunedau ar draws y DU yn cael eu “chwalu” os yw gweithfeydd dur yn cau.

Dywedodd Dr Barry Morgan bod dyfodol y diwydiant dur yn effeithio ar filoedd o bobl a chwmnïau. Ychwanegodd os oedd y diwydiant bancio werth arbed, ei bod hi’n werth achub y diwydiant dur hefyd.

Gwnaeth ei sylwadau wrth annerch corff llywodraethol yr Eglwys yng Nghymru yn Llandudno.

Meddai’r Dr Barry Morgan, sydd hefyd yn Esgob yn Esgobaeth Llandaf, sy’n cynnwys Port Talbot: “Mae’n codi’r cwestiwn am strategaeth ddiwydiannol y DU, gan mai dur yw sylfaen gweithgynhyrchu y wlad hon ac yn effeithio ar lawer o ddiwydiannau eraill.

“Nid wyf yn economegydd, ond mae’n ffaith fod cyfraddau busnes y diwydiant dur yn y DU yn llawer uwch nag mewn rhannau eraill o’r Undeb Ewropeaidd ac mae costau ynni i wneud tunnell o ddur yn y DU yn fwy na dwbl beth ydyn nhw yn yr Almaen.

“Y perygl yw, os yw’r holl weithfeydd dur yn cael eu cau, y bydd pris dur yn cynyddu a bydd hynny’n cael effaith bellgyrhaeddol ar ein heconomi a’n diwydiant.

“Bydd yn rhy hwyr erbyn hynny i bobol mewn llefydd fel Port Talbot, lle mae eu bywydau a’u cymunedau wedi eu llywio gan y diwydiant dur.”

Cymorth yn lleol

Ychwanegodd fod dros 1,000 o gwmnïau yn y DU yn rhestru gweithgynhyrchu neu castio dur fel un o’u prif feysydd busnes.

Dywedodd hefyd bod grŵp o 16 o aelodau eglwysi a chapeli Port Talbot wedi ffurfio tîm i helpu caplan y gweithfeydd dur i gefnogi pobol leol sy’n dioddef o straen.

Mae canolfan cyngor ar ddyled hefyd wedi cael ei sefydlu yn un o’r eglwysi lleol ac mae rhagor o fanciau bwyd wedi cael eu hagor i ateb y galw ychwanegol disgwyliedig.