Glyn Wise wedi symud ymlaen o'i ddyddiau ar y gyfres realaeth
Mae Glyn Wise yn mynnu na fydd ei enwogrwydd fel cystadleuydd ar raglen realaeth Big Brother yn faen tramgwydd wrth iddo geisio cael ei ethol i’r Cynulliad ym mis Mai.

Wise, oedd wedi ymddangos yn y gyfres deledu yn 2006, yw ymgeisydd Plaid Cymru ar gyfer sedd Canol Caerdydd.

Ac mae’n dweud ei fod e wedi aeddfedu ers y dyddiau pan ddaeth yn enwog yn 18 oed am ganu cân am ei anallu i ferwi ŵy.

Bendith neu felltith?

Dywedodd: “Fe ddigwyddodd Big Brother ddeng mlynedd yn ôl a dw i wedi dod ymlaen dipyn ers hynna.

“Mae pobol dal yn fy nabod i o’r rhaglen, yn enwedig wrth i fi ymgyrchu.

“Mae gan yr etholaeth lle dw i’n ymgeisydd boblogaeth fawr o fyfyrwyr ac mae ambell wyneb yn llawn syrpreis wrth i fi landio ar stepen y drws.

“Ond ydy bod ar Big Brother wedi bod yn felltith ac yn fendith? Dwi ddim yn meddwl ei fod o o gwbl. Mae angen pobol o gefndiroedd amrywiol yng ngwleidyddiaeth. Does dim angen i bawb fod yn hen ddynion mewn siwtiau llwyd.

‘Dim jargon’

“Dw i’n 28, dwi’m yn siarad mewn jargon ac mi alla’i uniaethu’n dda iawn efo pobol ifanc a’r materion sy’n eu heffeithio nhw. Mae pobol ifanc yn haeddu cael mwy o lais mewn gwleidyddiaeth.

“A hefyd, dwi wastad wedi bod yn angerddol am fy ngwlad ac am gael y gorau i Gymru – fel y mae Plaid Cymru hefyd.”

Fe fydd yn brwydro yn erbyn Jenny Rathbone (Llafur) ac Eluned Parrott (Democratiaid Rhyddfrydol) am y sedd yn y brifddinas – ac un arall o gystadleuwyr Big Brother, Joel Williams (Ceidwadwyr).