Mae dyn wedi ymddangos gerbron Llys y Goron Medway heddiw trwy gyswllt fideo, wedi’i gyhuddo o lofruddiaeth ddwbwl mewn.

Mae Foster Christian, 53, wedi’i gyhuddo o ladd Simon Gorecki, 47, a Natasha Sadler, 40.

Fe ddaethpwyd o hyd i gyrff y ddau wedi i Heddlu Caint gael eu galw i stryd dawel yng Nghaergaint ddydd Mawrth diwethaf. Roedd bachgen 16 oed mewn cyflwr difrifol wedi’r digwyddiad, a dyn 20 oed wedi’i anafu’n ddifrifol hefyd.

Mae Foster Christian wedi’i gadw yn y ddalfa, ac mae disgwyl iddo ymddangos gerbron Llys y Goron Maidstone ar Ebrill 5.

Mae Naomi Toro, 35, o Gaergaint, wedi’i chyhuddo o gynorthwyo troseddwr mewn cysylltiad â’r un digwyddiad. Fe fydd hi’n ymddangos gerbron Llys Ynadon Dover fory.

Mae dynes 18 oed o Gaergaint wedi’i chymryd i’r ddalfa ar amheuaeth o wyrdroi cwrs cyfiawnder, ac mae wedi’i rhyddhau ar fechniaeth tan Fai 3.