Bailey Gwynne (Llun: Heddlu'r Alban)
Mae disgybl 16 oed wedi cael ei garcharu am naw mlynedd ar ôl trywanu ei gyd-ddisgybl i farwolaeth mewn ffrae mewn ysgol yn Aberdeen.

Cafodd Bailey Gwynne, 16, ei ladd gan gyllell ar ôl cael ei drywanu yn ei frest yn Cults Academy ar 28 Hydref y llynedd.

Cafodd llys y llanc ifanc, sydd methu cael ei enwi am resymau cyfreithiol, yn euog o ladd y mis diwethaf ond fe ddyfarnodd rheithgor yn Uchel Lys Aberdeen nad oedd yn euog o lofruddiaeth.

Cafwyd ef yn euog hefyd o ddau gyhuddiad arall o gael cyllell a dyrnau haearn yn yr ysgol.