Roedd economi Prydain wedi tyfu’n gynt na’r disgwyl erbyn diwedd y llynedd, yn ôl ffigurau swyddogol sydd wedi’u cyhoeddi heddiw.

Serch hynny, mae’r diffyg ariannol wedi cyrraedd ei lefel uchaf ers i gofnodion ddechrau.

Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) wedi adolygu’r ffigwr ar gyfer cynnyrch mewnwladol crynswth (GDP) i 0.6% yn y pedwerydd chwarter, o’i gymharu â’r amcangyfrif blaenorol o 0.5%.

Mae’n dilyn perfformiad cryf yn y sector gwasanaethau.

Mae’r diffyg ariannol wedi cynyddu i £32.7 biliwn yn y pedwerydd chwarter, o’i gymharu â £20.1 biliwn yn y trydydd chwarter, gan achosi i’r diffyg fel rhan o’r incwm cenedlaethol gyrraedd 7% –  ei lefel uchaf ers 1955.

Dywedodd y Canghellor George Osborne bod y ffigurau newydd ar gyfer GDP yn golygu bod Prydain yn “parhau yn un o’r economïau sy’n tyfu gyflymaf.”

Ond fe rybuddiodd bod economi Prydain yn dal i wynebu risgiau oherwydd ansefydlogrwydd economiau gwledydd eraill y byd.