Donald Trump
Oriau’n unig ar ôl i’r biliwnydd Donald Trump ddweud y dylai merched sy’n cael erthyliad gael eu cosbi, mae’r ymgeisydd dadleuol yn y ras am arlywyddiaeth America wedi gwneud tro pedol.

Dywedodd y Gweriniaethwr yn ddiweddarach mai’r rhai sy’n cyflawni’r weithred o  erthylu, ac nid merched,  ddylai gael eu cosbi os bydd y gyfraith yn yr Unol Daleithiau yn newid.

“Y meddyg neu unrhyw berson arall sy’n cyflawni’r weithred anghyfreithlon hwn (os byddai’r gyfraith yn newid) fyddai’n gyfrifol yn gyfreithiol, nid y ddynes,” meddai Trump ar ôl tynnu ei sylwadau blaenorol yn ôl.

“Mae’r ddynes yn ddioddefwr yn yr achos hwn, fel y mae’r bywyd yn y groth.”

“Rhyw fath o gosb”

Mae Donald Trump wedi dweud ei fod yn erbyn erthyliadau, gyda “rhai eithriadau” fel mewn achosion o dreisio, llosgach a phan fydd bywyd y fam mewn perygl.

Dywedodd mewn cyfweliad yn gynharach ddydd Mercher y dylai menywod sy’n cael erthyliad gael “rhyw fath o gosb” os byddai’r gyfraith yn newid.

Doedd e ddim yn barod i ddweud pa fath o gosb fyddai hynny.

Awgrymodd hefyd y gallai merched gael erthyliadau ond mewn “mannau anghyfreithlon.”

Fel “cyn-gefnogwr o hawliau erthyliad”, dywedodd Donald Trump fod ei farn wedi “newid dros y blynyddoedd.”

Dywedodd Hillary Clinton, ceffyl blaen y Democratiaid yn y ras i’r Tŷ Gwyn, fod sylwadau Trump yn  “erchyll a thrawiadol.”

Mae ei sylwadau wedi ennyn cryn dipyn o feirniadaeth yn America, gan gynnwys ei gyd-aelodau yn y Blaid Weriniaethol.