Mae mwy na 100 o ddiffoddwyr wedi cael eu hanfon i frwydro tân “difrifol” mewn canolfan ailgylchu yn Birmingham.

Mae mwg i’w weld am filltiroedd o gwmpas canol y ddinas ar ôl i’r tân ddechrau yn Rhodfa Clarel.

Dywedodd Gwasanaeth Tân West Midlands bod 17 injan dân wedi cael eu hanfon i’r safle tua 2.08 prynhawn dydd Mawrth.

Mae’r ganolfan yn ail-gylchu 800 tunnell o blastig, rwber a metel.

Mae pobl yn cael eu cynghori i osgoi’r ardal a phobl sy’n byw gerllaw wedi cael cyngor i gau eu drysau a ffenestri.